Ty Crwn 1024 Dinas Dinlle, Cloddiadau 20223D ModelNoAI
Mae Bryngaer Dinas Dinlle (Heneb Gofrestredig CN048) yn edrych dros y môr o’i glwyd ar fryn anghysbell o ddrifft rhewlifol ar ymyl gwastadedd arfordirol gogledd Llŷn. Byddai’r gaer, y credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, wedi’i hamddiffyn yn wreiddiol gan ddau ragfur pridd gyda ffos ddofn rhyngddynt. Mae erydiad difrifol wedi dileu holl olion yr amddiffynfeydd ar ochr y môr ond maent yn dal i’w gweld tua’r de, dwyrain a’r gogledd.
Arweiniodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd y cloddiad cymunedol o ffos werthuso ar draws tŷ crwn 1024, ar ochr orllewinol y gaer dan fygythiad, yn 2019 fel rhan o brosiect CHERISH (http://cherishproject.eu/cy/).
Ym mis Awst/Medi 2021 cloddiwyd dau gwadrant mewnol yr adeilad. Mae’r model hwn yn dangos yr adeilad yn dilyn y cloddiad llawn o’r tu mewn ym mis Gorffennaf/Awst 2022.
Mae cloddiadau cymunedol 2021 a 2022 wedi cael cymorth grant gan Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac wedi’u cynnal ar y cyd â Phrifysgol Bangor a CHERISH.
Comments