Mae’r odyn galch hon (Gradd II Rhestredig) ar y glannau yn edrych dros draeth Sain Ffraid, ar lan ddeheuol Bae Sain Ffraid, Sir Benfro.
Ei swyddogaeth wreiddiol oedd llosgi’r calchfaen oedd yn cael ei mewnforio ar longau. Roedd y calch oedd yn cael ei greu drwy’r broses wedyn yn cael ei wasgaru ar gaeau i wella cynhyrchiant ac i leddfu’r pridd asidig naturiol yr ardal. Defnyddiwyd y calch hefyd i wneud morter calch ar gyfer gwaith adeiladu. Mewnforiwyd y glo a ysgogodd y broses gan long hefyd.
Cofnodwyd yr odyn galch hon ar 29ain Mehefin 2022 gan ddefnyddio drôn DJI Mini2 ac mae wedi’i restru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN544131) https://coflein.gov.uk/cy/safle/544131
Gwnaethpwyd y gwaith fel rhan o Brosiect CHERISH. I ddarganfod mwy, ewch i’n gwefan: http://cherishproject.eu/cy/
Comments