Triangles: 1.5M
Vertices: 751.5k
More model informationOdyn galch ar lan ogleddol Afon Nanhyfer, ger Trefdraeth, Sir Benfro.
Ei swyddogaeth wreiddiol oedd llosgi’r calchfaen oedd yn cael ei mewnforio ar longau. Roedd y calch oedd yn cael ei greu drwy’r broses wedyn yn cael ei wasgaru ar gaeau i wella cynhyrchiant ac i leddfu’r pridd asidig naturiol yr ardal. Defnyddiwyd y calch hefyd i wneud morter calch ar gyfer gwaith adeiladu. Mewnforiwyd y glo a ysgogodd y broses gan long hefyd.
Mae’r odyn galch dipyn wedi gordyfu mewn mannau, sy’n gwneud rhai rhannau ohoni’n anodd eu gweld, a hefyd yn anodd eu harolygu a’u modelu wedyn.
Cofnodwyd yr odyn galch hon ar 23 Mai 2023 ac mae wedi’i restru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN 506675) https://coflein.gov.uk/cy/safle/506675/
Comments