Triangles: 1.8M
Vertices: 903.5k
More model informationCei hanesyddol gwag Dale, Sir Benfro. Mae’r cei, a adeiladwyd o gerrig, ychydig i’r dwyrain o’r pentref, ar hyd blaen y traeth. Mae ychydig dros 30m o hyd a thua 8m o led. Mae llawer o gerrig sydd wedi cwympo o’r cei i’w gweld ar un ochr iddo.
Yn ei arolwg o arfordir Cymru, a gyhoeddwyd yn 1748, mae Lewis Morris yn nodi bod y cei yn segur ac yn adfeilio. Felly, mae’n bosibl ei fod yn dyddio’n ôl i ddyddiad llawer cynharach.
Cafodd gweddillion y cei eu cofnodi ar 20 Ebrill 2023 ac maent wedi’u rhestru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN 800023) https://coflein.gov.uk/cy/safle/800023/
Comments