Cadarnhawyd gan arolygon diweddarach mai’r APAPA ydy’r llongddrylliad hwn. Roedd yr APAPA yn teithio o Orllewin Affrica i Lerpwl pan gafodd ei suddo gan yr U 96 oddi ar Drwyn Eilian, Ynys Môn, ar 28 Tachwedd 1917. Collodd 77 o deithwyr a chriw eu bywydau. Agerlong oedd yr APAPA a gafodd ei hadeiladu ym 1914 i Gwmni Elder Dempster, Lerpwl. Byddai llongau’r cwmni’n cludo nwyddau a theithwyr rhwng Prydain a Gorllewin Affrica.
The most recent surveys have confirmed that this wreck is the APAPA. The APAPA was travelling from West Africa to Liverpool when she was sunk by U 96 off Point Lynas, Anglesey on 28 November 1917 with the loss of 77 passengers and crew. The ship was built in 1914 for the Liverpool-based Elder Dempster Company. This company was involved in transporting goods and passengers to and from West Africa.
Comments